#

 

Deiseb: Bysiau i bobl nid er elw
Y Pwyllgor Deisebau | 1 Hydref 2019
 Petitions Committee | 1 October 2019
 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-899

Teitl y ddeiseb: Bysiau i bobl nid er elw

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio cwmnïau bysiau masnachol a rhoi pwerau a chyllid i Awdurdodau Lleol i gynnal gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl leol orau. Yn ogystal â darparu mynediad at gyflogaeth ac addysg, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater cymdeithasol, iechyd a lles sy'n dod yn fwyfwy pwysig wrth i wasanaethau bws gael eu cwtogi, gan effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol llawer o drigolion a fydd yn dod yn ynysig yn gymdeithasol ac yn methu â chyrraedd gwasanaethau sylfaenol.

Mae cwmnïau bysiau yn cwtogi ar lawer o wasanaethau craidd a arferai weithredu heb gymhorthdal neu gyda braidd ddim cymhorthdal. Nid yw cwmnïau yn tendro am gontractau newydd ac mae rhai yn gofyn am symiau chwe ffigur yn gymhorthdal er mwyn parhau i weithredu. Nid oes modd i Awdurdodau Lleol fforddio hyn gan eu bod yn wynebu pwysau cyllidebol. Ni all Awdurdodau Lleol redeg gwasanaethau mewn cystadleuaeth â'r cwmnïau. Mae'n cymryd gormod o amser i deithio i'r gwaith gan fod gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu cwtogi, hyd yn oed os ydynt ar gael, ac mae rhai yn orlawn. Pobl hŷn yw mwyafrif y trigolion sy'n dod i'r llu o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd gennym, ac maent yn pryderu am gael mynediad at wasanaethau, cadw apwyntiadau iechyd a dod yn ynysig. Mae unigrwydd yn broblem fawr yn ein cymdeithas. Ein nod yw galluogi pobl hŷn i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Ein nod yw iddynt aros yn feddyliol ac yn gorfforol heini ac egnïol. Mae bysiau cyhoeddus bellach yn fater brys o bwys mawr y mae angen mynd i'r afael ag ef yn gyflym.

 

Cefndir

O dan Ddeddf Trafnidiaeth 1985, cafodd gwasanaethau bysiau lleol yn y DU eu dadreoleiddio y tu allan i Lundain.  Mae hyn yn golygu y gall gweithredwr sydd wedi'i drwyddedu’n briodol gofrestru unrhyw wasanaeth y mae’n ei ddewis ar sail fasnachol.  Ar hyn o bryd, er y gall awdurdodau lleol wahodd tendrau am lwybrau neu wasanaethau ychwanegol lle maent o’r farn nad yw anghenion cymdeithasol yn cael eu diwallu yn fasnachol, ni all gwasanaeth a gyflwynwyd drwy dendr gystadlu ag un masnachol.  

Fodd bynnag fe wnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli nifer o bwerau trafnidiaeth allweddol, ac ym mis Rhagfyr 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ’Phapur Gwyn: Gwella trafnidiaeth gyhoeddus’. Gallai’r cynigion arwain at newidiadau mawr i'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn gweithredu. Maent yn cynnwys rhoi pwerau i awdurdodau lleol redeg eu gwasanaethau bysiau eu hunain, sef yr hyn y mae’r deisebwyr yn galw amdano, a phwerau i weithredu masnachfraint bysiau, sef math o reoliad.

Deddf Cymru 2017

Fel yr amlinellwyd, fe wnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli nifer o bwerau trafnidiaeth ac, wrth baratoi i'r Ddeddf ddod i rym, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ystod 2017 ar gynigion i wella gwasanaethau bysiau lleol, ar ei chynllun tocynnau rhatach ac ar drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Defnyddiwyd yr ymgynghoriadau hyn fel sail ar gyfer cynigion y Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol i ben ar 27 Mawrth 2019 ac mae crynodeb o’r ymatebion wedi’i gyhoeddi.

Datganiad deddfwriaethol

Ar 16 Gorffennaf 2019, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor cyfredol y Cynulliad. Nododd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru:

…yn cyflwyno Bil trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y tymor hwn o'r Cynulliad [pwyslais wedi’i ychwanegu gan y Gwasanaeth Ymchwil], gan adeiladu ar y cynigion yn y Papur Gwyn ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Bydd y Bil hwn yn rhan allweddol o’r diwygiadau ehangach i wasanaethau bysiau yma yng Nghymru [pwyslais wedi’i ychwanegu gan y Gwasanaeth Ymchwil] …

Cynigion Papur Gwyn ar gyfer gwasanaethau bysiau

Ar 24 Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi diweddariad ar y Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) a’r agenda ar gyfer diwygio gwasanaethau bysiau yn ehangach.

Yn y datganiad, mae’r Gweinidog yn amlinellu y:

…bydd y Bil yn rhoi darpariaethau galluogi yn eu lle a fydd yn darparu set o ddulliau i'w hystyried gan awdurdodau lleol wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau bysiau, gan gynnwys gweithio partneriaeth gwell, mansachfreinio a gwasanaethau bysiau a redir gan awdurdodau lleol [pwyslais wedi’i ychwanegu gan y Gwasanaeth Ymchwil].

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft ar gyfer y Bil hefyd.

Partneriaethau Ansawdd Estynedig

Ar hyn o bryd, gall awdurdodau lleol sefydlu cynlluniau partneriaeth ansawdd gwirfoddol a statudol gyda gweithredwyr bysiau. Cynllun partneriaeth ansawdd yw cytundeb rhwng awdurdod lleol ac un neu fwy o weithredwyr bysiau lle mae’r awdurdod yn darparu cyfleusterau penodol ar hyd llwybrau bysiau fel lonydd bysiau, ac yn gyfnewid am hynny mae gweithredwyr sy’n dymuno defnyddio’r cyfleusterau hynny’n cytuno i ddarparu gwasanaethau o ansawdd arbennig.  Mae partneriaethau statudol wedi’u seilio ar gytundeb y gellir ei orfodi’n gyfreithiol.

Mae’r Papur Gwyn yn nodi’n glir bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw’r opsiynau presennol hyn ond y bydd hefyd yn caniatáu i Bartneriaethau Ansawdd Estynedig gael eu sefydlu.

Byddai Partneriaethau Ansawdd Estynedig yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau weithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynllun ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau gwell a galluogi awdurdodau lleol i osod ystod llawer ehangach o safonau gwasanaeth ar weithredwyr nag sy'n bosibl o dan y cynllun partneriaeth ansawdd presennol.

Masnachfreinio bysiau

Roedd y Papur Gwyn yn cynnig y dylai awdurdodau lleol gael pwerau i fasnachfreinio gwasanaethau bysiau. Yn y bôn, ffordd o ddad-reoleiddio’r diwydiant bysiau yw masnachfreinio. Byddai awdurdodau lleol yn nodi pa wasanaethau bysiau y dylid eu darparu mewn ardal, gan gynnwys llwybrau, safonau cerbydau, amserlenni a phris tocynnau. Byddai contractau i ddarparu’r gwasanaethau hyn yn cael eu dyfarnu i weithredwyr drwy dendr. Byddai gan y gweithredwr llwyddiannus hawl llwyr i ddarparu gwasanaethau yn ardal y fasnachfraint.

Gwasanaethau bysiau gan awdurdodau lleol

Ar hyn o bryd, mae Deddf Trafnidiaeth 1985 yn gwahardd awdurdodau lleol rhag gweithredu cwmnïau bysiau, ac eithrio o dan rai amgylchiadau cyfyngedig.  Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu cynigion i roi pŵer i awdurdodau lleol redeg gwasanaethau lleol naill ai'n uniongyrchol neu drwy gwmni hyd braich sy'n eiddo i'r awdurdod lleol ac a sefydlwyd at y diben hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau y byddai hyn yn goresgyn problemau sy’n codi pan nad yw gwasanaethau masnachol yn diwallu anghenion lleol. Er enghraifft, pan mai ychydig iawn o dendrau sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer gwasanaethau contract y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried sy'n lleihau cystadleuaeth ac yn cynyddu'r gost.

Cynigion eraill

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnig cyflwyno pwerau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysiau ac eraill ryddhau gwybodaeth am wasanaethau bysiau. Byddai'r cynigion hyn yn galluogi awdurdodau lleol i'w gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu gwybodaeth am amrywio a chanslo gwasanaethau, gyda'r nod o sicrhau bod teithwyr bob amser yn gallu cael gafael ar y wybodaeth gywir.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cynyddu’r oedran i fod yn gymwys ar gyfer tocyn bws am ddim o dan ei Chynllun Tocynnau Teithio Rhatach. Mae’r Papur Gwyn yn cynnig bod yr oedran bod yn gymwys hwn yn cynyddu i’r un lefel ag oedran pensiwn menywod. Mae hefyd yn nodi y byddai'r oedran i fod yn gymwys yn cynyddu fesul tipyn yn hytrach nag mewn un cam ac na fyddai unrhyw berson sydd â thocyn teithio ar adeg y newidiadau yn colli ei hawl.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Fel y nodwyd yn llythyr Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, dyddiedig 15 Awst 2019, bydd Llywodraeth Cymru yn:

…cyflwyno Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus yn ystod tymor hwn y Cynulliad, gan adeiladu ar y cynigion yn y Papur Gwyn ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’ a gafodd ei lansio ar gyfer ymgynghoriad y llynedd.

Dywedodd y Gweinidog hefyd y bydd y Bil “yn rhan o ddiwygiadau ehangach i wasanaethau bysiau yng Nghymru” a bod Trafnidiaeth Cymru wedi’i gomisiynu “i adolygu sut y gallai gwasanaethau bysiau gael eu darparu yn y dyfodol”.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn 2018, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliauy Cynulliad ymchwiliad i ystyried y pwerau newydd a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2017. Yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor, sef ‘Pwerau Newydd: Posibiliadau Newydd’, ysgrifennodd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd (PDF, 703KB) yn rhoi crynodeb o’r materion allweddol a godwyd. Yn yr ymchwiliad, dywed y Pwyllgor:

…roedd y tystion yn teimlo'i bod yn debygol y byddai awdurdodau lleol yn sefydlu cwmnïau bysiau oni bai bod methiant difrifol yn y ddarpariaeth o wasanaethau mewn ardal.

Ym mis Mai 2019, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad hefyd i gynigion Papur Gwyn Llywodraeth Cymru. Gwahoddodd y Pwyllgor randdeiliaid i rannu eu hymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, a chynhaliodd ei ddigwyddiad rhanddeiliaid ei hun i gasglu safbwyntiau. Clywodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth gan banel o gynrychiolwyr llywodraeth leol a thrafodwyd y cynigion gyda’r Gweinidog yn ystod sesiwn graffu gyffredinol.

Mae adroddiad y Pwyllgor (PDF, 192KB) yn crynhoi ei farn ar y dystiolaeth a gasglwyd. Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at y ffaith iddo glywed:

…nifer o bryderon cryf am y model masnachfreinio, ac am wasanaethau bws sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, ond clywyd cryn gefnogaeth gan randdeiliaid o blaid partneriaethau ansawdd estynedig.